Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 5
Rhagfyr 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(20 munud)
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): O ystyried bod adroddiad diweddar Estyn yn datgan y gallai ysgolion uwchradd yng Nghymru wneud yn well, gyda dim ond hanner wedi'u barnu i fod yn dda neu’n ardderchog ar hyn o bryd, pa waith y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y codir safonau ar draws holl ysgolion uwchradd Cymru?
(5 munud)
(15 munud)
NDM6890 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 03-18 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 23 Tachwedd 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9
2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.
(60 munud)
NDM6892 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu ers mis Rhagfyr 2009:
a) fod amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn y GIG yng Nghymru wedi cynyddu;
b) fod perfformiad yn erbyn y targedau 4 a 12 awr yn adrannau brys Cymru wedi dirywio;
c) nad yw’r targedau trin canser yng Nghymru erioed wedi cael eu cyrraedd;
d) fod nifer y gwelyau mewn ysbytai yng Nghymru wedi gostwng;
e) fod perfformiad TGAU wedi dirywio yng Nghymru gyda chyrhaeddiad graddau A * - C ar gyfer haf 2018 ar y lefel waethaf ers 2005;
f) fod sgoriau OECD PISA Cymru yn waeth mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth a bod y canlyniadau diweddaraf yn waeth nag yn 2009, gan roi sgoriau Cymru yn hanner gwaelod sgoriau byd-eang yr OECD ac ar waelod sgoriau'r DU;
g) fod nifer fawr o ysgolion yng Nghymru wedi'u cau'n barhaol;
h) fod incwm gwario gros aelwydydd fel canran o gyfartaledd y DU wedi gostwng;
i) fod gan Gymru gyfradd twf cyflog gyfartalog gwaethaf gwledydd y DU;
j) fod ardrethi busnes yng Nghymru wedi dod yn llai cystadleuol na rhannau eraill o'r DU; a
k) fod nifer y cartrefi newydd sy'n cael eu hadeiladu yn flynyddol yng Nghymru wedi gostwng.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod ei methiannau, gan roi’r gorau i’w pholisïau sy’n methu, a chyflawni'r newid cadarnhaol sydd ei angen ar Gymru.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth ar ôl Cymru a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod:
a) Bod bron i naw o bob 10 o bobl yn cael eu trin o fewn yr amser targed o 26 wythnos
b) Bod y buddsoddiad yn GIG Cymru ar lefel na welwyd o’r blaen
c) Bod mwy o bobl nag erioed yn goroesi canser yng Nghymru ac yn cael eu trin o fewn yr amser targed
d) Bod cyfran y disgyblion a gafodd y graddau TGAU uchaf, A* i A, wedi cynyddu i 18.5% yn 2018
e) Bod 8.7% o ddisgyblion wedi cael A* yn eu harholiadau Safon Uwch yn 2018 – y canlyniadau gorau yng Nghymru ers cyflwyno’r radd yn 2010
f) Bod incwm gwario gros aelwydydd (GDHI) yn 2016 yn £15,835 i bob person, sy’n cyfateb i 81.5% o GDHI y DU, cynnydd ers 2015
g) Bod enillion wythnosol gros cyflogeion sy’n gweithio’n amser llawn yng Nghymru yn 2018 wedi cynyddu 2.1% ers 2017
h) Bod 1.5m o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru yn ystod y tri mis hyd at fis Medi 2018, cynnydd o 4.2% o’i gymharu â’r un cyfnod flwyddyn ynghynt – y cynnydd mwyaf yn unrhyw un o wledydd neu ranbarthau’r DU
i) Bod tri chwarter busnesau bach Cymru yn cael cymorth â’u biliau ardrethi ac nad yw eu hanner yn talu unrhyw ardrethi annomestig o gwbl
j) Y bydd 20,000 o dai fforddiadwy newydd yn cael eu hadeiladu drwy gyllid Llywodraeth Cymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn.
Yn diolch i’r Prif Weinidog am ei arweiniad a’i waith yn ystod ei naw mlynedd yn y swydd.
(30 munud)
NDM6891 David Melding (Canol De Cymru)
Yr oes Neolithig yn stori Cymru: gwerthfawrogi yr hyn a gyflawnwyd cyn hanes.
Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cynhanes ym mywyd diwylliannol Cymru.
(120 munud)
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y Bil.
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:
1. Dyletswydd i ddarparu gofal plant a gyllidir
4*, 4A*, 4B*, 20
2. Cymhwystra rhieni
6, 11, 8, 9, 17, 19, 10, 22, 5
3. Darpariaeth gofal plant Cymraeg
7
4. Cludo rhwng darparwyr
12
5. Ffïoedd ychwanegol a chyfraddau talu
13, 21, 32, 33
6. Plant cymhwysol
14, 15, 16, 18
7. Rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru
1, 3
8. Offerynnau statudol: newidiadau i weithdrefnau
23
9. Categorïau o ddarparwyr gofal plant a gyllidir
24, 25
10. Trefniadau gweinyddol ar gyfer darparu gofal plant a gyllidir
26, 27, 28
11. Adolygu penderfyniadau ac apelau i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf
29
12. Adolygiad ac adroddiadau ar effaith y Ddeddf a darpariaeth fachlud
30, 2A, 2B, 2C, 2D, 2E, 2, 35
13. Dyletswydd i hyrwyddo ymwybyddiaeth
31
14. Cynllunio’r gweithlu
34
15. Cychwyn
36
Dogfennau Ategol
Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Rhestr o Welliannau wedi’u didoli
Grwpio Gwelliannau
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 11 Rhagfyr 2018